Gwybodaeth i bobl yn ymgeisio i fod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)
Cyflwyniad
Diolch yn fawr i chi am ddangos diddordeb mewn derbyn hyfforddiant i fod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Gobeithio y bydd yr wybodaeth isod yn eich helpu i ddeall beth fydd yn ddisgwyliedig gan Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Darllenwch yr wybodaeth yn ofalus os gwelwch yn dda.
Cefndir
Un o brif amcanion polisi iechyd meddwl yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o iechyd ac afiechyd meddwl a hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol. Ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru mae Mind Cymru’n cyflwyno menter hyfforddi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yng Nghymru. Rydym eisiau recriwtio pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ar draws Cymru i hyfforddi i fod yn Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).
Prif nod hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl a hybu gwellhad y rhai hynny sy’n profi afiechyd meddyliol. Amcanion yr hyfforddiant yw:
cynnal bywyd pan fo person mewn perygl o wneud niwed iddyn nhw eu hunain neu eraill
darparu help i atal problem iechyd meddwl rhag datblygu’n gyflwr mwy difrifol
hybu gwellhad iechyd meddwl da
darparu cysur i berson sy’n profi trallod meddyliol.
Mae’r cwrs 12 awr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn edrych ar anghenion oedolion sydd wedi datblygu neu mewn perygl o ddatblygu trallod meddyliol.
Grwpiau Targed
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Mind Cymru’n awyddus bod cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) ar gael i amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion ar draws Cymru. Anelir y rhaglen at wella dealltwriaeth y cyhoedd o iechyd meddwl. Rydym yn gobeithio y bydd rhai grwpiau allweddol o bobl yn mynychu cwrs, yn cynnwys pobl sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Ambiwlans, Yr Heddlu a Gwasanaeth Carchar yng Nghymru, Canolfan Byd Gwaith, Gofal Iechyd Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol, staff mewn Addysg Bellach ac Uwch, Gweithwyr Cefnogi mewn amryw o leoliadau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, a mannau gwaith eraill.