Mind Cymru - MHFA
 

Croeso i Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) 

 

Hyfforddiant iechyd meddwl newydd ‘i bawb’.

 

Mae gweithwyr rheng flaen yn aml yn gorfod delio gyda phobl gyda phrofiad o drallod meddyliol ond nid oes ganddynt y sgiliau na’r hyder sydd ei angen arnynt i roi cefnogaeth briodol iddynt.

 

Gydag un ym mhob pedwar ohonom yn cael ein heffeithio gan broblemau iechyd meddwl bob blwyddyn, cynigir cwrs hyfforddiant byr newydd i ddarparwyr gwasanaeth ar draws Cymru er mwyn delio’n fwy effeithiol gyda’r sialensiau hyn.

 

Mewn prosiect newydd uchelgeisiol, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Mind Cymru’n hyfforddi hyfforddwyr i ddysgu Cymorth Cyntaf Iechyd

 

Meddwl trwy Gymru.  Datblygwyd Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn Awstralia a chaiff ei gyflwyno yn yr Alban, Canada, Lloegr a Gogledd Iwerddon.  

 

Nid yw’r cwrs 12 awr yn eich hyfforddi i fod yn therapydd, cwnsler na gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl.  Bydd yn eich dysgu i:

  • rhoi help cychwynnol i rywun sy’n profi problem iechyd meddwl
  • delio gyda sefyllfa o argyfwng neu’r arwyddion cyntaf bod rhywun yn datblygu afiechyd meddwl
  • cyfeirio pobl tuag at help priodol.

Pwy ddylai fynychu?

 

Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru a Mind Cymru yw ei gwneud hi’n hwylus i amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion ar draws Cymru i gymryd rhan yn y cyrsiau 12 awr. Mae’r rhaglen wedi ei hanelu at godi ymwybyddiaeth o ddealltwriaeth o iechyd meddwl ymysg y cyhoedd. Ymysg rhai grwpiau allweddol mae pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, heddlu a gwasanaethau carchar Cymru, Canolfan Byd Gwaith, gofal iechyd cychwynnol a gofal cymdeithasol, staff yn gweithio ym myd addysg  bellach ac uwch, gweithiwr cefnogi mewn amryw o leoliadau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, a mannau gwaith eraill.

 

Rhaglen y cwrs

 

Mae’r cwrs 12 awr yn ymdrin â nifer o bynciau yn cynnwys:

  • beth a olygir gan iechyd meddwl/afiechyd meddwl
  • arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl cyffredin yn cynnwys iselder, anhwylderau gorbryder a seicosis
  • yr amrywiaeth o ymyraethau a thriniaethau
  • sut i gael help a chefnogaeth.

 

Mae darpariaeth y cwrs yn hyblyg iawn ac fe ellir ei gynnal dros 2 ddiwrnod llawn neu fe ellir ei rannu dros fwyafrif o 4 sesiwn dros 4 diwrnod.  Bydd cyfranogwyr yn derbyn tystysgrif mynychu a chopi o Lawlyfr MHFA (Cymru), sy’n cynnwys y pynciau a drafodir ar y cwrs.

 

Amcanion y cwrs

 

Nod Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yw helpu cyfranogwyr i:

  • cynnal bywyd ble bo person mewn perygl o wneud niwed iddyn nhw eu hunain neu eraill
  • darparu help i atal problem iechyd meddwl rhag datblygu’n gyflwr mwy difrifol
  • hybu gwellhad iechyd meddwl
  • darparu cysur i berson sy’n profi trallod meddyliol.

Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

 

Dim ond person sydd wedi ei ddewis a’i hyfforddi’n arbennig ac wedi ei gymeradwyo sy’n cael arwain y cwrs. Mae hyn yn sicrhau bod gan holl hyfforddwyr MHFA (Cymru) lefel arbennig o wybodaeth, sgiliau a phrofiad, bod cysondeb yn yr hyn sy’n cael ei ddysgu ar draws Cymru ac y gellir monitro ansawdd y cwrs.

 

 

 

 

     

NEWYDDION

 

Datganiad i'r wasg 

Hydref 2009

 

Siarad â fi: Cynllun gweithredu cenedlaethol i leihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru 

    
 
 
 
 
 

Y 5 cam sylfaenol

 
Mae gan gynllun gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) bump cam sylfaenol:
1. Gofyn am hunanladdiad
2. Gwrando heb farnu
3. Cynnig cysur a gwybodaeth
4. Annog y person i gael help a chefnogaeth briodol
5. Annog strategaethau hunan gymorth